Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac

Rhannu Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac ar Facebook Rhannu Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac Ar Twitter Rhannu Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac Ar LinkedIn E-bost Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac dolen

Yn ystod Clec i Jac y tro diwethaf, cymerodd dros 70 o wirfoddolwyr lleol ran mewn 10 digwyddiad i dynnu’r ffromlys yn Nhorfaen, gan dynnu dros 50,000 o blanhigion ymledol Jac y Neidiwr. 

O fis Mai i fis Awst eleni rydym am ddefnyddio’r dull hwn eto i glirio ffromlys ymledol Jac y Neidiwr o ardaloedd ar draws Torfaen.

Ond mae angen eich help chi!

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n gallu rhoi unrhyw beth o ychydig oriau i ychydig ddyddiau.

Does dim angen unrhyw brofiad, dim ond brwdfrydedd, ac awydd a pharodrwydd i weithio yn yr awyr agored!

Bydd gwirfoddolwyr wedyn yn dysgu sgiliau ymarferol a sgiliau adnabod planhigion, yn ogystal â chyfrannu at strategaeth ehangach i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol yn lleol.

Ble a phryd allwch chi helpu?

Rydym yn gweithio gydag eraill yn eich cymuned i gynnal cymaint o ddigwyddiadau tynnu ffromlys â phosibl ar draws Torfaen. Ewch at adran Dyddiadau Allweddol y dudalen hon a gwefanCysylltu Torfaen, neu ein tudalennau cyfryngau cymdeithasolneuEventbritei weld y digwyddiad agosaf atoch chi. Neu, defnyddiwch y map rhyngweithiol i fabwysiadau lle ac ymuno â neu drefnu Clec yn eich ardal leol chi!

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad lansio wrth Lyn Cychod Cwmbrân ddydd Mawrth 2 Mehefin!

Byddwn wrth y Llyn Cychod yng Nghwmbrân rhwng 10am a 2pm. Maen ddigwyddiad galw heibio am ddim i’r teulu sy'n digwydd trwy gydol y dydd. Does dim angen unrhyw brofiad, offer, a does dim angen aros am yr holl amser – dim ond galw heibio a chymryd rhan mewn ffordd sy'n addas i chi.

  • Dysgwch sut i adnabod Jac y Neidiwr
  • Darganfyddwch pam ei fod yn broblem i afonydd a bywyd gwyllt
  • Rhowch gynnig ar dynnu planhigion ffromlys gydag arweiniad gan y tîm
  • Sgwrsiwch â ni am sesiynau tynnu gwirfoddol yn y dyfodol
  • Cofrestrwch i "fabwysiadu clwt" a helpu i edrych ar ôl darn yn agos atoch chi
  • Byddwn wrth law i ateb cwestiynau, i ddangos technegau tynnu diogel, ac i esbonio sut y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar Eventbrite a Cysylltu Torfaen

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch y ffurflen gwirfoddolwyrar y dudalen hon a bydd un o'r tîm yn cysylltu cyn bo hir. Defnyddiwch y map rhyngweithiol i ddweud am ffromlys, i fabwysiadu clwt ac i ddod o hyd i ddigwyddiadau tynnu gwirfoddol sy'n digwydd yn eich ardal leol.

Pam mae angen i ni dynnu'r ffromlys?

Cafodd ei fewnforio i'r DU gyntaf gan fotanegwyr Fictoraidd ym 1839, does ganddo ddim unrhyw gystadleuwyr naturiol a gall ddominyddu ffosydd a glannau afonydd yn gyflym.

Gall y planhigyn - sydd wedi cael ei werthfawrogi am ei flodau pinc llachar - dyfu 10 troedfedd (3m) mewn un tymor yn y DU, gyda phob planhigyn yn cynhyrchu hyd at 2,500 o hadau. Mae ganddo'r llysenw "Touch-me-nots" oherwydd y ffordd y mae ei godau hadau’n ffrwydro pan fyddan nhw’n aeddfed, gan daflu hadau i bob man.

Fel planhigyn blynyddol, mae'n marw yn ôl yn y gaeaf, gan adael glannau afonydd yn noeth ac yn agored i erydiad, a all arwain at fwy o siltio afonydd. Gall coesynnau marw syrthio i afonydd a nentydd, gan rwystro llif dŵr a chynyddu'r risg o lifogydd.

Trwy dra-arglwyddiaethu mewn cynefinoedd, mae'n dileu'r amrywiaeth o blanhigion sydd eu hangen ar gyfer bywyd gwyllt brodorol.

Oeddech chi'n gwybod

Mae’r planhigyn wedi'i restru yn Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn y DU, sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon i’w blannu'n fwriadol neu beri iddo dyfu yn y gwyllt.

Diweddaru: 01 Meh 2026, 11:19 AC