Y Fargen: Torfaen

Rhannu Y Fargen: Torfaen ar Facebook Rhannu Y Fargen: Torfaen Ar Twitter Rhannu Y Fargen: Torfaen Ar LinkedIn E-bost Y Fargen: Torfaen dolen

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd ar Y Fargen

Mae'r gost o ddarparu gwasanaethau’r cyngor yn cynyddu ac rydym am sicrhau ein bod yn rheoli ein hadnoddau yn y ffordd orau, wrth gynnal gwasanaethau hanfodol.

Hoffem hefyd elwa o'ch profiad byw i helpu i ganfod beth sy'n gweithio'n dda yn eich cymuned a beth allai fod yn well. Sut ydych chi'n meddwl y byddai modd gwneud newid cadarnhaol, a beth allech chi ei wneud i fod yn rhan o hynny?

Rydyn ni eisiau gweithio gyda chymunedau. Felly gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu'r Fargen.

Bydd Y Fargen yn berthynas newydd rhwng y cyngor a chymunedau lleol, gyda'r nod o adeiladu rhywbeth gwell gyda'n gilydd.

Rydyn ni'n gwybod bod gwaith gwych yn mynd rhagddo mewn cymunedau drwy'r amser, lle mae pobl wedi bod yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan brosiectau fel y rhain, lle mae trigolion wedi cymryd yr awenau ar ôl canfod angen yn eu cymuned. Fel cyngor gallwn gyfeirio grwpiau at gyllid sydd ar gael ar gyfer prosiectau, gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor, ond mater yw hwn i gymunedau gael y rhyddid i benderfynu beth sydd ei angen.

Felly, hoffem gynhyrchu math o gontract cymdeithasol gyda thrigolion, gan weithio gyda'n gilydd i ganfod pa ymrwymiadau y dylai'r cyngor eu gwneud a’r hyn y dylai ei flaenoriaethu, ac yn yr un modd, yr hyn y dylai trigolion a chymunedau gael mwy o gyfrifoldeb amdano yn eu barn nhw, a beth y gallent ei wneud i helpu eu cymuned.

Gadewch i ni wneud gwahaniaeth

Gyda’r angen i fuddsoddi mewn meysydd allweddol i gadw gwasanaethau i redeg yn effeithiol, rydym hefyd yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd ar raddfa fawr yn yr ardal.

Mae pobl yn byw yn hirach, ond yn aml mae eu hiechyd yn wael. Mewn rhai ardaloedd yn Nhorfaen, mae iechyd trigolion sy’n iau o lawer, yn waeth na phobl mewn ardaloedd cyfagos.

Mae hyn yn rhan o'r anghydraddoldeb iechyd. Rydyn ni eisiau i bobl fyw'n iachach am gyfnod hirach felly rydym wedi gosod Pum Cenhadaeth i ni ein hunain i’n helpu i gyflawni hyn.
Felly mae darganfod beth sy'n gwneud gwahaniaeth ar lefel leol yn golygu gweithio gyda chymunedau sydd yn y sefyllfa orau i ddweud wrthym ba newidiadau sydd angen eu gwneud, a pha rhai y gellir eu gwneud.

I ddechrau’r sgwrs, hoffem ni ofyn ychydig o gwestiynau i chi, drwy’r ffurflen adborth ar y dudalen hon.

Cymerwch ran

Ymunwch â Phanel y Bobl a bod gyda’r cyntaf i glywed am gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai am Y Fargen yn ystod y misoedd nesaf. Cofrestrwch yma.

Cliciwch ar Dilyn y Prosiect er mwyn sicrhau nad ydych chi'n colli cyfle i gymryd rhan yn y prosiect pwysig hwn. Os gallwn ni wneud Bargen, gallai hyn newid y ffordd y cyflenwir gwasanaethau, a rhoi mwy o gyfle i gymunedau lleol siapio bywyd yn eu hardal.

  • Cymryd rhan
    Rhannu Eich barn a'ch profiadau ar Facebook Rhannu Eich barn a'ch profiadau Ar Twitter Rhannu Eich barn a'ch profiadau Ar LinkedIn E-bost Eich barn a'ch profiadau dolen
Diweddaru: 05 Tach 2025, 02:41 PM