Sut olwg sydd ar Jac y Neidiwr?

    Rhwng Mehefin ac Awst, mae Jac y Neidiwr yn cynhyrchu blodau deniadol piws-porffor sydd â dau betal hirgrwn amlwg (gwelwch y lluniau uchod).

    Mae ei goesau’n wyrdd gyda stribedi coch sy’n dod yn fwy amlwg yn nes at y blodyn, ac sy’n ymledu i’r dail hir. Mae gan y dail ymylon danheddog a gallant dyfu hyd at ryw 25cm o hyd.

    Mae Jac y Neidiwr yn tyfu yn y ddaear a gall gyrraedd hyd at ddau fetr o uchder