Rhannu Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac ar FacebookRhannu Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac Ar TwitterRhannu Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac Ar LinkedInE-bost Ymunwch yn ymgyrch Clec I Jac dolen
Yn ystod Clec i Jac y tro diwethaf, cymerodd dros 70 o wirfoddolwyr lleol ran mewn 10 digwyddiad i dynnu’r ffromlys yn Nhorfaen, gan dynnu dros 50,000 o blanhigion ymledol Jac y Neidiwr.
O fis Mai i fis Awst eleni rydym am ddefnyddio’r dull hwn eto i glirio ffromlysymledol Jac y Neidiwr o ardaloedd ar draws Torfaen.
Ond mae angen eich help chi!
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n gallu rhoi unrhyw beth o ychydig oriau i ychydig ddyddiau.
Does dim angen unrhyw brofiad, dim ond brwdfrydedd, ac awydd a pharodrwydd i weithio yn yr awyr agored!
Bydd gwirfoddolwyr wedyn yn dysgu sgiliau ymarferol a sgiliau adnabod planhigion, yn ogystal â chyfrannu at strategaeth ehangach i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol yn lleol.
Ble a phryd allwch chi helpu?
Rydym yn gweithio gydag eraill yn eich cymuned i gynnal cymaint o ddigwyddiadau tynnu ffromlysâ phosibl ar draws Torfaen. Ewch at adran Dyddiadau Allweddol y dudalen hon a gwefanCysylltu Torfaen, neu ein tudalennau cyfryngau cymdeithasolneuEventbritei weld y digwyddiad agosaf atoch chi. Neu, defnyddiwch y map rhyngweithiol i fabwysiadau lle ac ymuno â neu drefnu Clec yn eich ardal leol chi!
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad lansio wrth Lyn Cychod Cwmbrân ddydd Mawrth 2 Mehefin!
Byddwn wrth y Llyn Cychod yng Nghwmbrân rhwng 10am a 2pm. Mae’n ddigwyddiad galw heibio am ddim i’r teulu sy'n digwydd trwy gydol y dydd. Does dim angen unrhyw brofiad, offer, a does dim angen aros am yr holl amser – dim ond galw heibio a chymryd rhan mewn ffordd sy'n addas i chi.
Dysgwch sut i adnabod Jac y Neidiwr
Darganfyddwch pam ei fod yn broblem i afonydd a bywyd gwyllt
Rhowch gynnig ar dynnu planhigion ffromlys gydag arweiniad gan y tîm
Sgwrsiwch â ni am sesiynau tynnu gwirfoddol yn y dyfodol
Cofrestrwch i "fabwysiadu clwt" a helpu i edrych ar ôl darn yn agos atoch chi
Byddwn wrth law i ateb cwestiynau, i ddangos technegau tynnu diogel, ac i esbonio sut y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd.
Cwblhewch y ffurflen gwirfoddolwyrar y dudalen hona bydd un o'r tîm yn cysylltu cyn bo hir. Defnyddiwch y map rhyngweithiol i ddweud am ffromlys, i fabwysiadu clwt ac i ddod o hyd i ddigwyddiadau tynnu gwirfoddol sy'n digwydd yn eich ardal leol.
Pam mae angen i ni dynnu'r ffromlys?
Cafodd eifewnforio i'r DU gyntaf gan fotanegwyr Fictoraidd ym 1839, does ganddo ddim unrhyw gystadleuwyr naturiol a gall ddominyddu ffosydd a glannau afonydd yn gyflym.
Gall y planhigyn - sydd wedi cael ei werthfawrogi am ei flodau pinc llachar - dyfu 10 troedfedd (3m) mewn un tymor yn y DU, gyda phob planhigyn yn cynhyrchu hyd at 2,500 o hadau. Mae ganddo'r llysenw "Touch-me-nots" oherwydd y ffordd y mae ei godau hadau’n ffrwydro pan fyddan nhw’n aeddfed, gan daflu hadau i bob man.
Felplanhigyn blynyddol, mae'n marw yn ôl yn y gaeaf, gan adael glannau afonydd yn noeth ac yn agored i erydiad, a all arwain at fwy o siltio afonydd. Gall coesynnau marw syrthio i afonydd a nentydd, gan rwystro llif dŵr a chynyddu'r risg o lifogydd.
Trwy dra-arglwyddiaethu mewn cynefinoedd, mae'n dileu'r amrywiaeth o blanhigion sydd eu hangen ar gyfer bywyd gwyllt brodorol.
Oeddech chi'n gwybod
Mae’r planhigyn wedi'i restru yn Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn y DU, sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon i’w blannu'n fwriadol neu beri iddo dyfu yn y gwyllt.

Rhannu Ymunwch â ni fel gwirfoddolwr ar FacebookRhannu Ymunwch â ni fel gwirfoddolwr Ar TwitterRhannu Ymunwch â ni fel gwirfoddolwr Ar LinkedInE-bost Ymunwch â ni fel gwirfoddolwr dolen
Diweddaru: 01 Meh 2026, 11:19 AC
Lluniau
Lluniau
Jac y Neidiwr - Canllaw Cyflym Adnabod (ar gyfer tynnu gan wirfoddolwyr)