Rhannu Arolwg Mynwentydd 2026 ar FacebookRhannu Arolwg Mynwentydd 2026 Ar TwitterRhannu Arolwg Mynwentydd 2026 Ar LinkedInE-bost Arolwg Mynwentydd 2026 dolen
Gwnaed cyfres o welliannau i wasanaeth mynwentydd y Cyngor yn dilyn adolygiad mewnol ac arolwg cyhoeddus yn 2024Mae'r rhain yn cynnwys gosod hysbysfyrddau ym mhob mynwent, gwella’r cyngor a’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein, a defnyddio staff yn fwy hyblyg ar draws timau Gweithrediadau Amgylchedd (Strydlun) y Cyngor i ymateb i'r galw amrywiol mewn modd mwy effeithiol, gan sicrhau bod safonau da o ran cynnal a chadw tir, a pharhad y gwasanaeth. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda threfnwyr angladdau ac ymwelwyr, yn rhan o ddull ar y cyd, yn unol â Bargen Torfaen. Roedd hyn yn gyfle i archwilio cyfleoedd i weithio gyda'n gilydd i wella sgyrsiau a rhannu gwybodaeth, ac i wella amgylchedd y mynwentydd yn gyffredinol.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i wneud gwelliannau, a byddai'n croesawu eich adborth i helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i ddiwallu anghenion trigolion.
Mae'r arolwg isod yn cwmpasu - Mynwentydd Blaenafon, Panteg, Cwmbrân a Llwyncelyn. Mae'n cynnwys cwestiynau am eich profiadau o ran staff, tiroedd mynwentydd a gwasanaethau a ddarperir.
Gallwch ei lenwi trwy glicio isod neu drwy ymweld ag un o'n sesiynau galw heibio
Bydd yr ymgynghoriad o ddydd Llun 18fed Mai tan hanner nos ddydd Sul, 14eg Mehefin, 2026.
Sesiynau galw heibio’r ymgynghoriad:
Dydd Llun 1 Mehefin (10am-2pm) ym Mynwent Llwyncelyn a Chwmbrân Llwyncelyn Drive, Cwmbrân, NP44 7PF.
Dydd Mawrth 2 Mehefin (10am-2pm) ym Mynwent Blaenafon, Varteg Road, Blaenafon NP4 9DY.
Dydd Mercher, 3 Mehefin (10am-2pm) ym Mynwent Panteg, The Highway, Pont-y-pŵl NP4 8HW
Rhannwch eich barn am y mynwentydd hyn a'r cyswllt rhyngoch chi â'r gwasanaeth, drwy lenwi’r holiadur ar y dudalen hon.

Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i weithio gyda thrigolion i gynnig gwasanaeth o’r radd uchaf posibl. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i wella'r gwasanaeth trwy addasu blaenoriaethau a phrosesau lle bo hynny'n briodol, ac yn ôl y gyllideb sydd ar gael.
Mae'r holiadur isod yn cynnwys pob agwedd ar ein mynwentydd ac mae'n anelu i gasglu gwybodaeth gan deuluoedd i'n helpu i wella'r gwasanaeth. Mae'r cwestiynau hyn yn cynnwys eich profiad gydag aelodau staff, yn ystod angladd ac ar ôl angladd, ac o ran y tiroedd a’r cerrig beddau yn y mynwentydd.
Diolch am gymryd yr amser i lenwi’r holiadur hwn. Dylai gymryd llai na 10 munud i'w lenwi. Mae blwch sylwadau ar y diwedd fel y gallwch roi unrhyw adborth ychwanegol. Mae eich ymatebion yn bwysig a byddant yn cael eu bwydo'n ôl i'r tîm gwasanaeth.