
Adolygiad Mynwentydd
Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i weithio gyda thrigolion i gynnig gwasanaeth o’r radd uchaf posibl. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i wella'r gwasanaeth trwy addasu blaenoriaethau a phrosesau lle bo hynny'n briodol, ac yn ôl y gyllideb sydd ar gael.
Mae'r holiadur isod yn cynnwys pob agwedd ar ein mynwentydd ac mae'n anelu i gasglu gwybodaeth gan deuluoedd i'n helpu i wella'r gwasanaeth. Mae'r cwestiynau hyn yn cynnwys eich profiad gydag aelodau staff, yn ystod angladd ac ar ôl angladd, ac o ran y tiroedd a’r cerrig beddau yn y mynwentydd.
Diolch am gymryd yr amser i lenwi’r holiadur hwn. Dylai gymryd llai na 10 munud i'w lenwi. Mae blwch sylwadau ar y diwedd fel y gallwch roi unrhyw adborth ychwanegol. Mae eich ymatebion yn bwysig a byddant yn cael eu bwydo'n ôl i'r tîm gwasanaeth.