Pum Cenhadaeth
Cenhadaeth Un: Y Blynyddoedd Cynnar - Adeiladu Dyfodol Disglair
Cefnogi pob plentyn i ffynnu, drwy adeiladu sylfeini cryf ar gyfer dysgu a datblygiad gydol oes - gan ganolbwyntio ar les gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol.
Cenhadaeth Dau: Ysbrydoli Dysgu Gydol Oes, Uchelgais a Gwytnwch
Ysbrydoli uchelgais a gwytnwch trwy rymuso pobl o bob oed i fyw bywydau gwybodus, annibynnol ac iach.
Cenhadaeth Tri: Lles trwy Arweinyddiaeth Gymunedol
Cynnal partneriaeth gyda chymunedau i fanteisio ar gryfderau lleol a gwella llesiant, gan leihau'r angen i ddefnyddio gwasanaethau statudol yn gynnar
Cenhadaeth Pedwar: Economi Ffyniannus, Lleoedd Bywiog
Gyrru twf economaidd cynaliadwy a chreu cymunedau bywiog, sydd â chysylltiadau da, lle gall pobl a busnesau ffynnu
Cenhadaeth Pump: Grymuso Cymunedau, Rhannu’r Grym a’r Llwyddiant
Gweithio ochr yn ochr â chymunedau i ganfod eu huchelgais a'u hegni wrth i ni gynllunio ein gwasanaethau a’u darparu, gan greu'r amodau ar gyfer gwytnwch cymunedol, hunanddibyniaeth, a llwyddiant a rennir