Rhannu Trefi Ynghyd Pont-y-pŵl ar FacebookRhannu Trefi Ynghyd Pont-y-pŵl Ar TwitterRhannu Trefi Ynghyd Pont-y-pŵl Ar LinkedInE-bost Trefi Ynghyd Pont-y-pŵl dolen
Pa ardal o ganol tref Pont-y-pŵl yr hoffech chi ei gweld y cael ei glanhau?
Yn rhan o brosiect Trefi Ynghyd Pont-y-pŵl rydyn ni eisiau cydweithio ag aelodau o'r gymuned i helpu i wneud canol tref Pont-y-pŵl yn well, yn lanach ac yn fwy diogel.
Bydd hyn yn golygu bod ardaloedd o ganol y dref yn cael eu targedu i’w glanhau.
Er mwyn dechrau arni, hoffem gael eich adborth chi i’n helpu i flaenoriaethu'r gwaith.
Llenwch y ffurflen fer ar y dudalen hon i roi gwybod i ni pa ardal y mae angen ei glanhau fwyaf, yn eich barn chi.
Gallwch hefyd ddatgan diddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect hwn wrth iddo fynd rhagddo.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i ni gael eich awgrymiadau?
Ar ôl gwaith glanhau dwfn gan dîm Strydlun Cyngor Torfaen, bydd grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a staff y Cyngor yn dod at ei gilydd nes ymlaen yr haf hwn i gwblhau'r gwaith o lanhau'r ardal a ddewiswyd.
Cadwch lygad ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth am:
Sut allwch chi wirfoddoli ac ymuno ar y diwrnod.
Ble a phryd fydd y glanhau yn digwydd.
Cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Torfaen.
Tanysgrifiwch i Cymryd Rhan i ddilyn y prosiect hwn.
RHAN O'R FENTER 'TREFI YNGHYD'