Trefi a Dinasoedd Byd Natur

    Mae Trefi a Dinasoedd Byd Natur yn glymblaid o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, sydd wedi ymrwymo i ddod â natur a mannau gwyrdd i ardaloedd trefol, er budd pawb.

    Cafodd y glymblaid ei sefydlu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Natural England, ac mae’n helpu i roi natur, seilwaith gwyrdd a threftadaeth wrth galon penderfyniadau lleol, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny a fydd yn elwa fwyaf.

    Dros y 10 mlynedd nesaf, bydd y rhaglen yn gweithio gyda 100 o drefi a dinasoedd ar draws y DU i wella mannau gwyrdd a seilwaith naturiol a chreu rhai newydd, gyda'r nod o helpu 10 miliwn o bobl i fwynhau natur a mannau gwyrdd yn well yn lleol, ac  un miliwn yn fwy o blant i allu chwarae ym myd natur ar garreg eu drws.