Planed Iach, Pobl Iach

Rhannu Planed Iach, Pobl Iach ar Facebook Rhannu Planed Iach, Pobl Iach Ar Twitter Rhannu Planed Iach, Pobl Iach Ar LinkedIn E-bost Planed Iach, Pobl Iach dolen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn falch iawn o fod wedi ymuno â'r rhaglen Trefi a Dinasoedd Natur, gan dderbyn £800,000 dros dair blynedd ar gyfer prosiect Planed Iach, Pobl Iach Torfaen.

Trwy'r prosiect, byddwn yn gwella’n dealltwriaeth o'r natur sydd gennym yn Nhorfaen, sut mae cymunedau'n cael mynediad iddi, a sut y gallwn wella ein mannau gwyrdd fel bod natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd.

Mae'r cyfleoedd yn cynnwys:

Rhwydwaith Cyswllt Trefi Natur– byddwn yn datblygu rhwydwaith o bobl sydd â diddordeb mewn cefnogi natur yn Nhorfaen, ac yn cynnal Hybiau Sgiliau rheolaidd, cofnodi bywyd gwyllt a diwrnodau gweithredu cadwraeth ymarferol

Ysgolion Natur – gweithio gydag ysgolion i ddylunio tiroedd ysgol a mannau gwyrdd mwy cyfoethog yn agos atynt, i gynnig mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gysylltu â natur yn lleol

Gweithdai cyd-ddylunio – dod â chymunedau, unigolion a grwpiau lleol at ei gilydd gydag arbenigwyr lleol i ddylunio mannau gwyrdd sy'n gyfoethocach o ran natur ac yn haws eu cyrchu

Rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur– yn ogystal â chymryd rhan yn rhaglen digwyddiadau haf Torfaen, byddwn yn cynnig llawer o gyfleoedd eraill i fynd allan i fyd natur. Os oes gennych syniad am rywbeth rydych chi'n ei feddwl y byddai pobl wrth eu bodd yn ei wneud, rhowch wybod i ni.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd felly daliwch ati i ddod yn ôl, a rhannu eich sylwadau gyda ni.

A gan eich bod chi yma: Peidiwch ag anghofio cofrestru ar Cymryd Rhan Torfaen.

Byddwch yn gallu dilyn prosiectau a sicrhau na fyddwch chi’n colli’r cyfle i ddweud eich dweud, cyfrannu at lunio siâp prosiectau a pholisïau a chlywed am y digwyddiadau ymgysylltu diweddaraf! Peidiwch â phoeni, gallwch gymryd rhan yn ddienw os fyddai’n well gennych.

Diweddaru: 10 Tach 2025, 04:34 PM