5. Cynigir hefyd fod y terfyn oedran uchaf o ddeng mlynedd ar gyfer adnewyddu trwydded cerbyd yn cael ei ddileu o'r Polisi. Byddai cerbydau hŷn nag wyth mlynedd yn cael eu hail-drwyddedu ar sail teilyngdod yn unig, yn ôl disgresiwn y swyddog trwyddedu.
Byddai hyn yn golygu y gellid adnewyddu'r drwydded ar gyfer cerbyd o unrhyw oedran. Fodd bynnag, byddai unrhyw gerbyd sydd dros wyth oed yn cael ei arolygu a, dim ond os yw mewn cyflwr da iawn ac mae'r tu mewn a'r tu allan o safon uchel, bydd yn cael ei ail-drwyddedu.
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cyfyngiadau oedran newydd arfaethedig?