Beth yw Cwmbrân y Dyfodol?

    Cynllun adfywio 10-mlynedd yw Cwmbrân y Dyfodol, sy’n cael ei ariannu gan Gynllun ar gyfer Cymdogaethau (Cynllun Tymor Hir i Drefi gynt)) gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ei nod yw gwella canol y dref a'r cymunedau cyfagos trwy fuddsoddi mewn seilwaith, gwasanaethau, a chyfleoedd sydd o’r pwys mwyaf i bobl leol.

    Pam y dewiswyd Cwmbrân ar gyfer cyllid Cynllun ar gyfer Cymdogaethau?

    Dewiswyd Cwmbrân fel un o 75 o drefi yn y DU i dderbyn hyd at £20 miliwn drwy Gynllun ar gyfer Cymdogaethau Llywodraeth y DU. Mae’n cynrychioli’r angen amlwg i adfywio yn y tymor hir, a chyfle cryf i wneud hynny. Fel rhan o strategaeth genedlaethol i rymuso pobl leol ac 'adennill rheolaeth’, roedd Cwmbrân yn sefyll allan oherwydd ei botensial i ddod yn enghraifft o adnewyddu cynhwysol, dan arweiniad y gymuned yng Nghymru.

    Daw’r arian yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU ac mae’n gwbl ar wahân i gyllid Llywodraeth Cymru.

    Bydd y cyllid yn cael ei ryddhau fesul cam dros gyfnod o 10 mlynedd gan ddechrau yn 2026. 

    Beth yw prif nodau'r cynllun?

    Mae’r cynllun yn seiliedig ar dri nod cyffredinol: 

    • Lleoedd sy’n ffynnu – Adfywio mannau cyhoeddus a chyfleusterau lleol. 
    • Cymunedau Cryfach – Cefnogi grwpiau a gwasanaethau lleol. 
    • Adennill Rheolaeth – Grymuso trigolion i siapio’u cymdogaethau.  

    Beth yw'r cyfleoedd buddsoddi allweddol?

    Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar wyth thema o flaenoriaeth i lywio buddsoddiad a gweithredu: 

    1. Adfywio, Y Stryd Fawr a Threftadaeth 
       Adfywio canol trefi, gwarchod treftadaeth leol, a chreu mannau cyhoeddus bywiog. 
    1. Tai
       Gwella ansawdd, fforddiadwyedd a nifer y cartrefi sydd ar gael. 
    1. Gwaith, Cynhyrchiant a Sgiliau
       Cefnogi’r gwaith o greu swyddi, hyfforddiant, a chyfleoedd cyflogaeth. 
    1. Cydlyniant 
       Atgyfnerthu cysylltiadau cymunedol a hyrwyddo cynhwysiant a pherthyn. 
    1. Iechyd a Lles
       Gwella mynediad at wasanaethau iechyd, mannau gwyrdd, a chymorth iechyd meddwl. 
    1. Trafnidiaeth 
       Gwella cysylltedd, trafnidiaeth gyhoeddus, a llwybrau teithio llesol. 
    1. Diogelwch 
       Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud cymdogaethau yn fwy diogel. 
    1. Addysg a Chyfleoedd
       Ehangu mynediad at ddysgu, gwasanaethau ieuenctid, ac addysg gydol oes. 

    Pwy sy'n arwain y prosiect?

    Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân (dolen), sef pobl leol, busnesau ac arweinwyr cymunedol, sy’n gyfrifol am gasglu syniadau, arwain, creu a chyflenwi’r cynllun. Bydd Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân yn penderfynu sut mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu a'i wario, yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i Gwmbrân. 

    Mae Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân yn cyfarfod o leiaf 4 gwaith y flwyddyn. Mae holl agendâu a chofnodion y cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Torfaen (GI page link) 

    Mae pobl leol hefyd yn chwarae rhan hanfodol, o ran helpu i lunio'r cynllun a phenderfynu sut mae'r arian yn cael ei wario, trwy roi eu syniadau a'u hadborth ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer Cwmbrân. 

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn rhoi cymorth gweinyddol i Fwrdd Cymdogaeth Cwmbrân a dyma’r corff atebol sy’n gyfrifol am weithredu cynlluniau, diwydrwydd y cyllid, cytundebau talu grant ac adroddiadau ariannol. Nid yw'r cyllid yn mynd i gyllideb y Cyngor. Mae wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer Cwmbrân y Dyfodol.

    Pa ardaloedd o Gwmbrân fydd yn elwa? Ble gellir gwario'r arian?

    Mae'r cynllun yn cwmpasu canol y dref a'r cymdogaethau/cymunedau cyfagos.

    Gweler y map ffiniau 

    Sut alla i gymryd rhan?

    Gallwch helpu i lunio dyfodol Cwmbrân drwy: 

    • Ddod i weithdai cymunedol a digwyddiadau galw heibio 
    • Cwblhau arolygon ar-lein (Dolen i’r arolwg) 
    • Cyflwyno syniadau drwy e-bost  CwmbranFutures@torfaen.gov.uk neu wyneb yn wyneb
    • Ymuno â grwpiau gwaith/ffocws neu wirfoddoli gyda phrosiectau lleol

    Beth sydd eisoes wedi'i wneud?

    Mae gweithgareddau cychwynnol i ymgysylltu â'r cyhoedd hyd yma yn cynnwys: 

    • Gweithdai cymunedol ar draws Cwmbrân
    • Arolwg ar-lein i gasglu barn yn lleol
    • Sesiynau galw heibio mewn lleoliadau cyhoeddus allweddol

    Beth yw amserlen y prosiect?

    • Medi - Tachwedd 2025: Ymgysylltu â'r gymuned a datblygu cynllun Cwmbrân y Dyfodol
    • 28th Tachwedd 2025: Y dyddiad cau i fwrdd Cymdogaeth Cwmbrân gyflwyno cynllun adfywio 10 mlynedd Cwmbrân y Dyfodol ynghyd â chynllun buddsoddi ar gyfer y pedair blynedd gyntaf, i Lywodraeth y DU
    • Ebrill 2026: Rhyddhau cam cyntaf y cyllid 
    • 2026-2036: Cyflawni'r prosiect mewn camau