Helpwch i lunio dyfodol Cwmbrân
Cynllun adfywio a gefnogir gan Grant o £20miliwn gan Lywodraeth y DU yw Cynllun Cymdogaethau Cwmbrân (y Cynllun Tymor Hir i Drefi gynt).
Bydd yn darparu cyfleoedd ariannu dros y 10 mlynedd nesaf a fydd yn helpu i adfywio cymunedau ledled Cwmbrân drwy dri nod craidd:
Lleoedd sy’n Ffynnu | Cymunedau Cryfach | Adennill Rheolaeth
Mae'r cynllun yn cwmpasu canol y dref a'r ardaloedd cyfagos, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd fwyaf pwysig i bobl leol.
Yn ystod 2024, fe wnaethoch chi roi eich barn i ni ar themâu allweddol fel Diogelwch, Y Stryd Fawr, Adfywio a Threftadaeth, a Chysylltedd, a nawr rydym yn plymio'n ddyfnach i feysydd fel:
Tai | Swyddi a sgiliau | Iechyd a lles | Addysg a chyfleoedd | Bywyd mewn cymunedau
Dweud eich dweud
Rydym nawr yn lansio arolwg newydd i glywed eich barn ar y pynciau newydd hyn. Bydd eich barn yn helpu i lunio dyfodol Cwmbrân. Mae'r data o 2024 yn dal i fod yn bwysig, ac mae eich llais nawr yn hanfodol ar gyfer adeiladu darlun llawnach.
Rydyn ni’n cynnal dwy sesiwn alw-heibio, ac mae croeso i chi alw i’n gweld a holi unrhyw gwestiynau:
Dydd Iau 25 Medi, Llyfrgell Cwmbrân, 10am-6:30pm
Dydd Mawrth 30 Medi, Stadiwm Cwmbrân, 10am–6:30pm
Cwblhewch yr arolwg isod erbyn 5pm ddydd 6/10/2025, i ychwanegu eich barn. Diolch.
