Glasbrint ar gyfer Twf - gweithio ar ddyfodol gwell

Rhannu Glasbrint ar gyfer Twf - gweithio ar ddyfodol gwell ar Facebook Rhannu Glasbrint ar gyfer Twf - gweithio ar ddyfodol gwell Ar Twitter Rhannu Glasbrint ar gyfer Twf - gweithio ar ddyfodol gwell Ar LinkedIn E-bost Glasbrint ar gyfer Twf - gweithio ar ddyfodol gwell dolen

Beth yw Glasbrint ar gyfer Twf 'Ffynnu ar gyfer Twf'?

Mae twf economaidd yn flaenoriaeth genedlaethol, ac mae Blaenau Gwent a Thorfaen yn barod i chwarae eu rhan wrth ddarparu dyfodol mwy sefydlog, ffyniannus a gwyrddach. Mae helpu pobl i gael mynediad at gyflogaeth deg a chreu lleoedd iach a chynaliadwy yn amcanion allweddol i'r ddau gyngor

Fel ardal sydd newydd ffedereiddio, mae Blaenau Gwent a Thorfaen yn barod i gymryd y cam nesaf yn eu taith twf gyda'i gilydd.

Mae'r ddwy ardal yn cytuno bod rhaid i dwf economaidd fod yn gynhwysol, yn deg ac wedi ei ffurfio gan y ddwy gymuned fel rhan o "Fargen" ehangach rhwng y ddau gyngor a'r cymunedau.

Ffynnu Gyda'n Gilydd yw enw'r Glasbrint drafft ar gyfer Twf Cynhwysol a Chynaliadwy. Mae'n cyflwyno’r weledigaeth, y themâu a'r egwyddorion a ddylai lywio gwaith y ddau gyngor.

Pam fod hyn yn bwysig...

Bydd y Glasbrint ar gyfer Twf yn cyflwyno gwaith y dyfodol y bydd cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen yn canolbwyntio arno i gefnogi twf economaidd. Y bwriad yw bod hyn, yn ei dro, o fudd i gymunedau, yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i drigolion yn y dyfodol.

Sut y gallwch chi helpu

Ar hyn o bryd mae'r cynllun ar ffurf drafft, mae'n waith sy’n parhau.
Felly, hoffem i chi wneud y canlynol os gwelwch yn dda:

1. Darllenwch y ddogfen ddrafft Glasbrint ar gyfer Twf

THEN

2. Cwblhewch y ffurflen adborth fer isod i rannu eich profiadau o gylch swyddi, hyfforddiant, cyfleoedd a ble’r ydych chi’n byw.

NEU...

3. Ychwanegwch eich sylwadau i’r Bwrdd Syniadau isod o dan y tab Ychwanegwch Eich Sylw.

Dyna fe. Wedyn byddwn yn cymryd eich adborth ac yn ei ddefnyddio i lunio'r ddogfen ddrafft ymhellach fel bod ganddi'r cyfle gorau i wneud gwahaniaeth wrth i ni symud ymlaen.

Rhannwch eich barn drwy lenwi'r ffurflen isod, sydd ar agor o ddydd Llun 11 Mai tan hanner nos ddydd Mawrth 30 Mehefin, 2026.

Eisiau trafod yn bersonol?

Byddwn yn cynnal rhai sesiynau galw heibio a fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y meysydd a gwmpesir gan y Glasbrint - swyddi, economi, ble rydych chi'n byw, trafnidiaeth - yr holl bethau sy'n effeithio ar y cyfleoedd sydd gyda ni i wneud yn dda (neu ddiffyg y cyfleoedd hynny).

Dewch i sgwrsio â'n tîm yn:

Dydd Gwener 15 Mai: Canolfan Siopa Cwmbrân. 10am -4pm

Dydd Gwener 22 Mai: Canolfan Siopa Glynebwy (ger Argos), The Walk, Glynebwy. 10am -4pm

Dydd Mawrth 19 Mai: Hwb Busnes Gwaith Aur, Regain 2, Y Gwaith, Lime Ave, Glynebwy. 10am - 3pm

Dydd Mawrth 26 Mai: Canolfan Arloesi Busnes Springboard, Parc Diwydiannol Llantarnam, Cwmbrân. 10am - 3pm

Cyhoeddi: 22 Ebr 2026, 03:54 PM