Arolwg blodau gwyllt - Create a Buzz

Rhannu Arolwg blodau gwyllt - Create a Buzz ar Facebook Rhannu Arolwg blodau gwyllt - Create a Buzz Ar Twitter Rhannu Arolwg blodau gwyllt - Create a Buzz Ar LinkedIn E-bost Arolwg blodau gwyllt - Create a Buzz dolen

Create a Buzz – Helpwch ni i gael Torfaen i flodeuo!

Ydych chi’n gwybod am ymyl ffordd, man gwyrdd, cornel cymunedol, neu ddarn o dir heb ei ddefnyddio a allai gael ei drawsnewid yn hafan i wenyn, pili-pala a bywyd gwyllt eraill?

Mae Create a Buzz yn gwahodd trigolion lleol i enwebu safleoedd ar gyfer plannu blodau gwyllt ledled Torfaen. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn greu mannau hardd sy’n cefnogi natur, yn dod â chymunedau at ei gilydd ac yn gwneud ein cymdogaethau’n lleoedd mwy braf i fyw ynddynt.

Enwebwch safle

Rydym yn chwilio am leoliadau a allai gael eu gwella trwy blannu blodau gwyllt, boed yn ymyl ffordd glaswelltog, man agored glaswelltog, ardal gymunedol neu safle addas arall. Cliciwch ar y map i awgrymu lle.

Os ydych chi’n gwybod am le a allai helpu natur i ffynnu, byddem wrth ein bodd yn clywed wrthych. Rhowch bin ar y map, gadewch sylw neu e-bostiwch veronika.brannovic@torfaen.gov.uk Gallwch hefyd roi gwybod i ni os hoffech chi gymryd rhan yn y plannu.

Mabwysiadwch Glwt Blodau Gwyllt

Am gymryd rhan mwy? Fel rhan o Create a Buzz, rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i fabwysiadu clytiau blodau gwyllt a helpu i ofalu amdanyn nhw. Cwblhewch ffurflen fer a bydd un o’r tîm yn cysylltu i gael sgwrs!

Trwy fabwysiadu clwt, byddwch yn chwarae rôl pwysig wrth helpu’r blodau gwyllt i ffynnu. Gall gwirfoddolwyr helpu trwy gadw llygad ar y safle, dweud am broblemau, codi sbwriel, rhannu lluniau, a’n helpu i ddathlu’r bywyd gwyllt mae’r mannau yma’n eu cefnogi. Gallech fynd ymhellach a chymryd rhan yn nhorri a chasglu’n flynyddol ar y safleoedd hyn, gyda hyfforddiant a chefnogaeth trwy’r prosiect.

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr – dim ond yn rhywun sy’n poeni am natur ac sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu hardal leol. Mae’n ffordd wych o ddysgu am fywyd gwyllt lleol, treulio amser yn yr awyr agored a chyfrannu at Dorfaen gwyrddach, mwy cyfeillgar at natur.

P’un ai ydych chi’n unigolyn, yn deulu, yn grŵp cymunedol, ysgol neu fusnes lleol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gyda’n gilydd, ymunwn â Create a Buzz a helpu pobl a natur i ffynnu ledled Torfaen!

Cyflwynwch eich awgrym o safle heddiw a helpwch i wneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt a phobl.

Pam fod blodau gwyllt yn bwysig

Mae dolydd bywyd gwyllt a phlannu sy’n gyfeillgar i beillwyr yn cynnig nifer o fuddion:

  • Buddiol i iechyd a lles trwy gysylltu pobl â natur a chreu lleoedd dymunol i gerdded, ymlacio a threulio amser yn yr awyr agored.
  • Cefnogi gwenyn, gloÿnnod byw, a pheillwyr eraill sy’n hanfodol ar gyfer ecosystemau iach a chynhyrchu bwyd.
  • Hwb i fioamrywiaeth trwy ddarparu bwyd a lloches i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, fel draenogod ac adar du.
  • Gwella’r amgylchedd trwy helpu i amsugno glaw, gwella iechyd y pridd a storio carbon.
  • Creu lleoedd hardd sy’n rhoi llewyrch i ardaloedd lleol a lliw tymhorol.

Mae’r project yn cyd-fynd â Chenhadaeth Pum Bargen Torfaen: Grymuso Cymunedau - Rhannu’r Grym a’r Llwyddiant

Gweithio ochr yn ochr â chymunedau i ddal eu huchelgais a’i egni wrth i ni gynllunio a chyflenwi ein gwasanaethau, gan greu’r amodau ar gyfer gwytnwch cymunedol, hunanddibyniaeth a llwyddiant wedi ei rannu

Gallwch ddysgu mwy am ddulliau Torfaen gyda glaswelltiroedd i gefnogi bioamrywiaeth trwy wylio’r fideo byr isod.

  • Mae prosiect Create a Buzz yn brosiect cymunedol cyffrous. Ar wahân i helpu i benderfynu ble bydd y blodau gwyllt yn cael eu plannu, fe hoffem i chi gymryd mwy o ran os gwelwch yn dda!

    Gallwch naill ai fabwysiadu clwt blodau gwyllt yn eich cymuned, helpu i’w blannu a gofalu amdano.

    Neu gallwch gofrestru i helpu gyda’r plannu   hydref, hyd yn oed os oes dim ond ychydig o oriau gyda chi i’w sbario, byddem wrth ein bodd yn eich gweld. Bydd yn gyfle gwych i gysylltu ag aelodau o’ch cymuned a dysgu mwy am natur!

    Cwblhewch y ffurflen fer yma i fynegi diddordeb a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi. Diolch.

    Llenwch y ffurflen
    Rhannu Mabwysiadwch glwt blodau gwyllt ar Facebook Rhannu Mabwysiadwch glwt blodau gwyllt Ar Twitter Rhannu Mabwysiadwch glwt blodau gwyllt Ar LinkedIn E-bost Mabwysiadwch glwt blodau gwyllt dolen
Diweddaru: 10 Awst 2026, 10:59 AC