Caru Pont-y-pŵl - Trefi Ynghyd

Rhannu Caru Pont-y-pŵl - Trefi Ynghyd ar Facebook Rhannu Caru Pont-y-pŵl - Trefi Ynghyd Ar Twitter Rhannu Caru Pont-y-pŵl - Trefi Ynghyd Ar LinkedIn E-bost Caru Pont-y-pŵl - Trefi Ynghyd dolen

Diweddariad: Bydd y Diwrnod Gweithredu Cymunedol yn digwydd ym Mhont-y-pŵl fel rhan o gynllun Trefi Gyda’n Gilydd tua diwedd Medi.

Gwahoddir gwirfoddolwyr i gwrdd y tu allan i fynedfa Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn Crane Street o 9am ddydd Sadwrn i helpu i lanhau a chwynnu yn Crane Street a The Link, Commercial Street a George Street. Os hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch: pontypooltaskforce@gmail.com neu simon.warren@torfaen.gov.uk

Mae’n dilyn gwaith gan dimau’r cyngor i dorri darnau mwy o lystyfiant ac ysgubo strydoedd fel rhan o raglen Trefi Gyda’n Gilydd, a fydd yn gweld timau’r cyngor, busnesau, trigolion, grwpiau gwirfoddol a phartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i nodi a gwella canol trefi.

Yn Awst, gofynnon ni pa ardal yng nghanol tref Pont-y-pŵl hoffech chi weld yn cael ei glanhau.

Yn rhan o brosiect Trefi Ynghyd Pont-y-pŵl rydyn ni eisiau cydweithio ag aelodau o'r gymuned i helpu i wneud canol tref Pont-y-pŵl yn well, yn lanach ac yn fwy diogel.

Bydd hyn yn golygu bod ardaloedd o ganol y dref yn cael eu targedu i’w glanhau.

Er mwyn dechrau arni, hoffem gael eich adborth chi i’n helpu i flaenoriaethu'r gwaith.

Llenwch y ffurflen fer ar y dudalen hon i roi gwybod i ni pa ardal y mae angen ei glanhau fwyaf, yn eich barn chi.

Gallwch hefyd ddatgan diddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect hwn wrth iddo fynd rhagddo.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i ni gael eich awgrymiadau?

Ar ôl gwaith glanhau dwfn gan dîm Strydlun Cyngor Torfaen, bydd grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a staff y Cyngor yn dod at ei gilydd nes ymlaen yr haf hwn i gwblhau'r gwaith o lanhau'r ardal a ddewiswyd.

Cadwch lygad ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth am:

  • Sut allwch chi wirfoddoli ac ymuno ar y diwrnod.
  • Ble a phryd fydd y glanhau yn digwydd.

Cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Torfaen.

Tanysgrifiwch i Cymryd Rhan i ddilyn y prosiect hwn.

RHAN O'R FENTER 'TREFI YNGHYD'

Diweddaru: 08 Sep 2026, 01:49 PM