Rhannu Map y Rhwydwaith Teithio Llesol 2026 ar FacebookRhannu Map y Rhwydwaith Teithio Llesol 2026 Ar TwitterRhannu Map y Rhwydwaith Teithio Llesol 2026 Ar LinkedInE-bost Map y Rhwydwaith Teithio Llesol 2026 dolen
Cyfle i ddweud eich dweud unwaith eto!
Y llynedd, dechreuodd Cyngor Torfaen ddiweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol a gofynnodd am eich barn.
Cafodd eich adborth ei ystyried, a hoffem i chi weld y fersiwn ddiweddaraf o fap y rhwydwaith.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, olwynion a beicio yn rheolaidd. Cymeradwywyd y map sydd gennym ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru yn 2022, a nawr mae'n amser adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd ddiwethaf.
Beth sy’n cael ei Ddiweddaru?
Bydd y map newydd yn cynnwys:
Llwybrau sydd yma nawr: Mae’r rhain yn llwybrau sy’n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau troed, olwynion neu feiciau (neu bob un o’r tri).
Llwybrau’r dyfodol: Mae’r rhain yn llwybrau sydd ddim yn bodoli eto neu y mae angen eu gwella arnom er mwyn bodloni’r safonau gofynnol.
Mae Angen eich Adborth Arnom
Dyma'r ail gam o ymgysylltu â'r cyhoedd, ac mae eich mewnbwn yn hanfodol. Efallai eich bod chi’n teithio ar droed, ar olwynion, ar feic neu'n poeni am opsiynau teithio gwell yn Nhorfaen. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, rydyn ni eisiau eich syniadau chi am sut i wella'r rhwydwaith.