Rhannu Eich llyfrgell, eich llais ar FacebookRhannu Eich llyfrgell, eich llais Ar TwitterRhannu Eich llyfrgell, eich llais Ar LinkedInE-bost Eich llyfrgell, eich llais dolen
NI CHODIR TÂL i ymuno â'n llyfrgelloedd ac maent yn cynnig cymaint mwy na llyfrau; erbyn hyn maent yn esblygu i fod yn hybiau cymunedol amlbwrpas sy'n cynnig gwasanaethau a gweithgareddau sy'n hygyrch i bawb.
Os byddwch chi’n ymweld â'n llyfrgelloedd yng Nghwmbrân, Pont-y-pŵl neu Flaenafon, fe gewch fenthyg e-lyfrau ac e-gylchgronau; defnyddio cyfrifiadur a chysylltu’n ddiwifr; cymryd rhan mewn rhaglen weithgareddau fywiog ac amrywiol, neu ddysgu sgiliau newydd... a’r cyfan oll am ddim. Dyma rai o’r rhesymau y dylech ymweld.
Mae angen eich help arnom
Er bod llawer o drigolion eisoes yn defnyddio eu llyfrgell leol yn rheolaidd, rydym yn sylweddoli efallai nad ydyn nhw'n gwybod am yr holl wasanaethau sydd ar gael. Efallai na fydd eraill yn teimlo bod ganddynt reswm i ymweld. Felly, hoffem ofyn ychydig o gwestiynau i gael gwybod pam!
Os ydych chi'n defnyddio eich llyfrgell leol, hoffem wybod eich barn.
Os nad ydych wedi defnyddio'ch llyfrgell leol ers amser maith, neu erioed, hoffem hefyd wybod eich barn.
Helpwch ni i sicrhau bod y llyfrgelloedd yn cynnig y pethau sydd eu hangen ar eich cymuned, trwy gymryd rhan yn yr arolwg byr isod. Ni fydd yn cymryd yn hir ac rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau.
Eich Llyfrgell, Eich Llais
Arolwg yn cau ddydd Gwener 21 Tachwedd, 2025.