Rhannu CRAFFU: Eich awgrymiadau ar FacebookRhannu CRAFFU: Eich awgrymiadau Ar TwitterRhannu CRAFFU: Eich awgrymiadau Ar LinkedInE-bost CRAFFU: Eich awgrymiadau dolen
23/7/25: Ychwanegwyd awgrymiadau trigolion at waith Trosolwg a Chraffu
Yn ddiweddar, gofynnwyd i chi am eich awgrymiadau am bynciau yr hoffech iddynt gael eu hystyried gan ein Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn y flwyddyn i ddod.
Diolch i bawb a ymwelodd â'r Hwb Democratiaeth ar wefan Cymryd Rhan Torfaen i ychwanegu eu hawgrymiadau at y broses weledigaeth hon. Mae llawer o'ch awgrymiadau wedi'u dewis fel eitemau yn y rhaglenni gwaith ar gyfer y pwyllgorau canlynol: Yr Economi a'r Amgylchedd; Plant a Theuluoedd; Addysg; Oedolion a Chymunedau.
Bob blwyddyn, fel arfer ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig (Mai/Mehefin), rhaid i bob pwyllgor trosolwg a chraffu osod a chyhoeddi ei raglen waith, gan nodi rhestr o eitemau dethol y maent yn dymuno craffu arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod.
Gelwir y sesiwn hon yn "Sesiwn Creu Gweledigaeth”.
Mae ystod eang o wybodaeth megis data perfformiad, dadansoddiad risg, argymhellion arolygiadau allanol a'r Blaengynllun Gweithredol yn cael ei ystyried gan aelodau wrth flaenoriaethu eu rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Bydd aelodau'n ymgymryd â'r rownd nesaf o sesiynau rhaglennu gwaith dros bythefnos cyntaf Gorffennaf 2025.
Byddai aelodau'r pwyllgor yn croesawu eich awgrymiadau neu eich sylwadau ar yr hyn yr hoffech eu gweld yn craffu arno yn y flwyddyn i ddod.
Ychwanegwch eich awgrym drwy'r Bwrdd Syniadau ar y dudalen hon neu gallwch e-bostioscrutiny@torfaen.gov.uk
Anfonwch eich awgrymiadau erbyn dydd Mercher 18fed Mehefin 2025