Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân - Aelodau

Rhannu Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân - Aelodau ar Facebook Rhannu Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân - Aelodau Ar Twitter Rhannu Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân - Aelodau Ar LinkedIn E-bost Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân - Aelodau dolen

Bwrdd Cwmbrân y Dyfodol

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu a byd dyn cael ei gyflenwi gan Fwrdd Cymdogaeth Cwmbrân, sydd wedi ei sefydlu i reoli’r prosiect. Mae’r bwrdd yn cynnwys trigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol. Bydd y Cyngor yn cefnogi’r Bwrdd ac yn goruchwylio’r penderfyniadau i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion Llywodraeth y DU.

Mae’r bwrdd yn cyfarfod o leiaf pedair gwaith y flwyddyn. Mae papurau, agendâu a chofnodion y bwrdd ar gael.

Louise Jones-Williams, Cyd-Gadeirydd

Mae Louise Jones-Williams wedi gweithio ym maes y celfyddydau yn y De-ddwyrain ers dros 30 mlynedd a daeth yn Gyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Llantarnam Grange yn 2019. Mae hi'n rhan o dîm ymroddedig a thalentog ac yn arwain ar gyfeiriad busnes strategol a chreadigol y sefydliad, yn codi arian yn ogystal â chysylltu â phartneriaid a rhwydweithiau i ddatblygu perthnasoedd a phrosiectau. Mae Louise yn guradur profiadol y mae ei harddangosfeydd wedi canolbwyntio ar syniadau o dreftadaeth ddomestig, rôl gwaith menywod mewn cymdeithas ac adrodd straeon. Mae Louise wedi bod yn ddewiswr ar gyfer Gwyliau Crefft yn Bovey Tracy, Cheltenham, Caerdydd ac Aberteifi yn ogystal ag Urdd y Gwneuthurwyr yng Nghymru. Mae Louise yn Gyd-gadeirydd Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) ac yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Celfyddydau Cwmbrân.

Mark Poulton, Cyd-Gadeirydd

Mae Mark wedi byw a gweithio yng Nghwmbrân ar hyd ei oes. Yn gyntaf, bu’n byw ym Mhentre Isaf, yna Llanyrafon ac, ers 1989, yng Nghoed Efa. Mae Mark wedi bod yn briod am 36 mlynedd ac mae ganddo ddau o blant sy’n oedolion.

Ar ôl gadael Ysgol Gyfun Llantarnam ym 1976, dechreuodd fel prentis yn Lucas Girling, Cwmbrân ac mae wedi parhau i weithio yno i Cummins-Meritor, ac mae bellach yn ei 50fed blwyddyn o wasanaeth. Ar ôl 9 mlynedd fel prentis a gosodwr offer peiriannau, symudodd i faes TG fel rhaglennydd cyfrifiadurol ym 1985 ac mae wedi bod yn y swydd honno ers hynny. Mark yw Rheolwr TG y safle ers 2009.

Mae Mark yn Gadeirydd ac yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Cwmbrân. Nod yr Ymddiriedolaeth yw bod o fudd i gymuned Tref Cwmbrân yn ardal NP44 drwy ddarparu cyllid a rhoddion i ysgolion, cymunedau ac unigolion. Y nod yw hyrwyddo addysg, darparu amwynderau cymdeithasol a lleddfu tlodi, trallod, neu salwch.

Mae Mark wedi bod yn Is-gadeirydd y Cyrff Llywodraethu yn Ysgol Gynradd Coed Efa (Ffederasiwn Cynradd Blenheim Road a Choed Efa bellach) ers 1997 ac Ysgol Uwchradd Fairwater (Ysgol Uwchradd Cwmbrân bellach) ers 2003.

Y Gwir Anrh. Nick Thomas-Symonds AS

Mae'r Gwir Anrhydeddus Nick Thomas-Symonds AS wedi bod yn Aelod Seneddol Torfaen ers iddo gael ei ethol gyntaf ym mis Mai 2015.

Magwyd Nick ym Mlaenafon. Aeth i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Felix ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban. Astudiodd Wleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg yn Neuadd Sant Edmund, Rhydychen, gan raddio yn 2001, cyn gweithio fel Tiwtor/Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth yn ei hen goleg (2002-2015), gan arbenigo mewn llywodraeth Prydain yn yr ugeinfed ganrif.

Ar ôl y brifysgol, hyfforddodd Nick i fod yn fargyfreithiwr ac roedd yn denant yn siambrau Civitas Law yng Nghaerdydd. Mae wedi ysgrifennu tri bywgraffiad o Wleidyddion Llafur, Attlee: A Life in Politics (2010) a Nye: The Political Life of Aneurin Bevan (2014) a Harold Wilson: The Winner (2022).

Mae Nick yn byw yn Abersychan gyda'i wraig Rebecca, ei ferched Matilda a Florence, ei fab William, a'u ci, Pippa.

Roedd gan Nick nifer o rolau yn y Cabinet Cysgodol, gan gynnwys Cysgod Ysgrifennydd Cartref, Cysgod Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, a Chysgod Weinidog Heb Bortffolio yn Swyddfa'r Cabinet. Yn 2021, fe'i penodwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor gan Ei Diweddar Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II

Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2024, penodwyd Nick yn Dâl-feistr Cyffredinol a Gweinidog Swyddfa'r Cabinet (Gweinidog y Cyfansoddiad a Chysylltiadau Ewropeaidd).

Adam Martin

Mae Adam yn Gyfarwyddwr London and Cambridge Properties, rhan o Grŵp M-Core, ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am reoli buddsoddiadau portffolio buddsoddiad eiddo rhanbarthol de-orllewin y grŵp.

Mae ei rôl yn cynnwys cymysgedd o ymgymryd â mentrau eiddo o werth ychwanegol a strategaethau ailddatblygu o fewn y portffolio. Yn bennaf, mae gwaith Adam yn canolbwyntio ar fanwerthu cymdogaeth, cyfleustra a chanol trefi yn ogystal ag ystadau diwydiannol aml-osodiad.

Aimi Morris

Aimi Morris yw Swyddog Gweithredol Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (TVA). Mae TVA wedi ymrwymo i wella gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol ledled Torfaen drwy gynnig adnoddau, arweiniad a chydnabyddiaeth i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol, yn ogystal â gwirfoddolwyr unigol. O dan arweinyddiaeth Aimi, mae TVA yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol, megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Landlordiaid Cymdeithasol, ac Arweinwyr sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, i feithrin amgylchedd cymunedol cydlynol a chefnogol.

Cyn ymuno â TVA, bu Aimi’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen am bron i 13 mlynedd. Ar ôl cael ei magu yng Nghwmbrân a threulio ei bywyd gwaith yn y fwrdeistref, mae ganddi ran felly yn nyfodol ein hardal. Mae hi'n gobeithio y gall ei rhwydwaith eang ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ynghyd â'i hangerdd am wasanaeth a datblygiad cymunedol, fod o wasanaeth i’r Bwrdd Cynllunio wrth gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol dros y 10 mlynedd nesaf.

Alan Brunt

Mae Alan wedi bod yn Brif Weithredwr Tai Cymunedol Bron Afon ers 2017 ac mae hefyd yn Is-gadeirydd Cartrefi Cymunedol Cymru, corff masnachol cymdeithasau tai yng Nghymru. Yn ogystal â chynnal angerdd dros sicrhau bod gan bawb le maen nhw'n falch o'i alw'n gartref, mae ganddo ddiddordeb personol ers tro mewn datblygiad economaidd a chymunedol. Y tu allan i'r gwaith, mae Alan yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser gyda theulu a ffrindiau, rhywfaint ohono yn ceisio creu cerddoriaeth!

Catherine Love

Catherine Love yw Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr Tai Cymunedol Bron Afon ac fe ymunodd hi â Bron Afon yn 2019. Cyn ymuno â Bron Afon, cafodd Catherine brofiad yn y sector preifat a chyhoeddus gan gynnwys rolau uwch yng Nghyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae Catherine yn angerddol am roi pobl, deallusrwydd emosiynol ac arloesedd wrth wraidd darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, o fewn y Gyfarwyddiaeth Profiad Cwsmer mae hi wedi canolbwyntio ar adeiladu cysylltiadau cryf â chwsmeriaid mewnol ac allanol. Mae dull arweinyddiaeth Catherine yn pwysleisio empathi, tosturi, a phenderfyniad i sicrhau bod cwsmeriaid bob amser yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn arbenigo mewn gwasanaeth cwsmeriaid, cyfathrebu marchnata, rheolaeth gwybodaeth a chynllunio corfforaethol.

Y Cynghorydd Anthony Bird

Mae'r Cynghorydd Anthony Bird wedi bod yn aelod o Gyngor Cymuned Cwmbrân ers 2017 a gwasanaethodd fel cadeirydd y cyngor rhwng 2019-2023.

Cafodd y Cynghorydd Bird addysg ym Mhrifysgol De Cymru, gan ennill BA mewn Busnes a'r Gyfraith, ac mae ganddo gefndir mewn llywodraeth leol, deddfwriaeth ddatganoledig, materion cyhoeddus, cysylltiadau cyhoeddus a brandio. Yn y gorffennol mae wedi gweithio fel swyddog y wasg i Lywodraeth Cymru, fel Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Komodo ac fel ymgynghorydd brandio ar gyfer busnes lleol, Life In Plastic. Yn ogystal â hyn, mae'r Cynghorydd Bird hefyd wedi ysgrifennu nifer o erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau amrywiol, a llyfr, Afghanistan: What Went Wrong, gyda llyfr dilynol, Emugeddon: The True History of the Great Emu War, ar y gweill ar gyfer 2025.

Yn ei rôl fel cynghorydd dros Bentre Uchaf, mae'r Cynghorydd Bird wedi gwasanaethu mewn nifer o swyddi ar fyrddau ac ymddiriedolaethau ledled Torfaen gan gynnwys Theatr y Gyngres, Cymdeithas Gefeillio Cyfeillion Tref Bruchsal, Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Torfaen ac mae'n gynrychiolydd Cynghorau Cymuned ar Bwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Torfaen.

Y Cynghorydd Joanne Gauden

Mae'r Cynghorydd Joanne Gauden yn Gynghorydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n cyd-gynrychioli ward Croesyceiliog ochr yn ochr â'r Cyng. Richard Clark.

Mae'r Cynghorydd Gauden wedi dal Portffolio Cabinet ers pum mlynedd: yn gyntaf, y Portffolio ar gyfer Llywodraethu a Pherfformiad Corfforaethol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar gyfer yr Economi, Sgiliau ac Adfywio. Mae'r rôl yn cynnwys cyfarwyddyd gwleidyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, prosiectau adfywio gan gynnwys Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer ardal ddiwylliannol Pont-y-pŵl ac yn fwy diweddar y Cynllun ar gyfer Cymdogaethau, Cwmbrân.

Mae'r Cynghorydd Gauden yn briod gyda theulu cymysg o bump o blant sy'n oedolion a dau o wyrion a phan fydd amser yn caniatáu, bydd yn gwneud gwaith crefft neu'n mynychu dosbarthiadau ioga.

David Nash

David Nash yw cadeirydd ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen (YHT). Elusen yw YHT sy'n gyfrifol am redeg cyfleusterau hamdden sy'n eiddo i’r awdurdod lleol ledled Dorfaen, gan gynnwys Stadiwm Cwmbrân a Chanolfan Hamdden Fairwater.

Mae cefndir proffesiynol David ym maes polisi cyhoeddus, strategaeth a materion corfforaethol. Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad o weithio i gyrff cyhoeddus, cymdeithasau masnach, melinau trafod a llywodraeth leol.

Ei swydd bresennol yw Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi yn y Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Peirianneg (ECITB). Bu’n gweithio o’r blaen fel uwch gynghorydd polisi yn Ffederasiwn Busnesau Bach, a bu’n Gymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) ac mewn llywodraeth leol.

Mae gan David radd MA mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd Gyfoes a gradd BA Anrh mewn Ffrangeg a Hanes. Aeth i'r ysgol ym Mhont-y-pŵl ac mae bellach yn byw yng Nghwmbrân gyda'i deulu.

Lauren Morse

Lauren yw perchennog Zero Waste Torfaen, busnes bach annibynnol yng Nghwmbrân. Mae ganddi ddau fab sy'n mynychu ysgolion lleol ac mae wedi byw yng Nghwmbrân ar hyd ei hoes. Mae Lauren yn angerddol am helpu i greu cymuned ddiogel a theg i bawb a, phan nad yw'n gweithio, mae hi’n gwirfoddoli ei hamser yn eiriol dros iechyd meddwl a'r amgylchedd

Lloyd Hambridge

Lloyd Hambridge yw'r Cyfarwyddwr Rhanbarthol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae’n fferyllydd yn y rhanbarth. Mae gan Lloyd brofiad o weithio mewn amrywiaeth o rolau yn Llywodraeth Cymru, gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd a brys gyda GIG Cymru. Mae'n angerddol am ddarparu systemau gofal sylfaenol a chymunedol yn ddiogel, effeithiol ac effeithlon, gan ganolbwyntio ar wasanaethau cyd-gynlluniedig a ddarperir yn lleol.

Lynne Neagle

Lynne Neagle yw Aelod Llafur a Chydweithredol Cymru Senedd Cymru dros etholaeth Torfaen. Mae hi wedi cynrychioli Torfaen ers sefydlu'r Senedd yn 1999.

Ganwyd Lynne ym Merthyr Tudful a chafodd addysg yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a Phrifysgol Reading.

Cyn iddi gael ei hethol i'r Senedd, roedd gan Lynne nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan weithio i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a CAB. Roedd hi'n Swyddog Datblygu Gofalwyr gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a gweithiodd hefyd fel ymchwilydd i Glenys Kinnock ASE.

Roedd Lynne yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn y Bumed Senedd.

Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles ar 13 Mai 2021. Ar hyn o bryd Lynne yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Scott Rolfe

Scott Rolfe yw Prif Weithredwr Halo Leisure, lle mae wedi trawsnewid y fenter gymdeithasol ers 2014, gan yrru twf sydd wedi cynyddu trosiant o £12 miliwn i £25 miliwn wrth ehangu gweithrediadau i 33 o gyfleusterau a 1,000 o staff ar draws sawl rhanbarth. Mae ei arweinyddiaeth wedi ail-leoli'r sefydliad o amgylch eu gweledigaeth, 'Creu Cymunedau Iachach', gan ddatblygu partneriaethau comisiynu iechyd arloesol a gweithredu strategaethau twf uchelgeisiol sydd wedi cyflawni ehangu i farchnadoedd newydd yn llwyddiannus.

Gyda dros dri degawd o brofiad yn y sector hamdden, mae Scott yn cyfuno craffter masnachol gydag arbenigedd effaith gymdeithasol go iawn. Mae ei ymagwedd at reoli perfformiad a dealltwriaeth o'r sector cyhoeddus a phreifat wedi ei sefydlu fel arweinydd sy'n cyflawni twf cynaliadwy wrth gynnal ffocws cymunedol. Mae arbenigedd llywodraethu Scott yn rhychwantu'r sectorau hamdden ac addysg, lle mae wedi gwasanaethu ar sawl bwrdd, gan ddarparu cymorth arbenigol mewn cyllid a datblygu busnes.

Siân Hughes

Siân Hughes yw Pennaeth Gwasanaethau i Ddysgwyr, Campws PDT, Coleg Gwent. Mae Siân wedi rhoi dros 25 mlynedd i faes addysg, gan ymuno â Choleg Gwent yn 2005. Chwaraeodd ran allweddol wrth hyrwyddo campws Parth Dysgu Torfaen (PDT), ac mae'n gyd-gadeirydd Grŵp Cynllunio Cwricwlwm Torfaen. Mae Siân yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Awdurdod Lleol Torfaen ac arweinwyr ysgolion uwchradd i sicrhau profiad ôl-16 o ansawdd uchel i fyfyrwyr ledled y rhanbarth.

Rhwng 2013 a 2019, bu'n aelod gwerthfawr o Fwrdd Coleg Gwent. Mae ei ffocws proffesiynol ar gefnogaeth a lles dysgwyr, gyda phwyslais cryf ar arfer sy'n cael ei oleuo gan drawma, mae hi wedi bod yn allweddol wrth ymgorffori dulliau sy'n cael eu goleuo gan drawma ledled y coleg.

Yn eiriolwr brwd dros godi uchelgeisiau, mae Siân yn ymrwymedig i ehangu cyfleoedd i bobl ifanc yn Nhorfaen.

Tegan Davies

Gwasanaethodd Tegan Davies fel aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros etholaeth Torfaen rhwng 2021 a 2024. Mae hi'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, ac yn cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol ar gyfer amrywiol ymgyrchoedd a sefydliadau gan gynnwys Our Voice Matters a Kidscape. Wedi'i geni a'i magu yng Nghwmbrân, mae ganddi ddiddordeb brwd yn natblygiad y dref ac mae'n gobeithio y bydd ei lle ar y bwrdd yn sicrhau bod pobl ifanc Cwmbrân yn cael eu clywed a bod y cynllun yn cynrychioli llais holl ieuenctid yr ardal.

Diweddaru: 12 Tach 2025, 03:32 PM