Arolwg Preswylwyr Torfaen 2026
Dewch i siarad: Byw Nhorfaen
Mae Dewch i siarad: Byw yn Nhorfaen yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen.
Mae eich llais yn bwysig
Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen i ddeall yn well:
- Beth sy'n bwysig i chi
- Eich profiad o'ch ardal leol
- Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor
Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.
Cwblhau’r arolwg
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 25/10/2026. Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael mewn fformatau eraill.
CLICIWCH YMA I LENWI’R HOLIADUR
Mae'r arolwg hwn yn cau am hanner nos ddydd Sul 25 Hydref 2026.
Mae'r holiadur hwn ar gael mewn fformatau eraill hefyd, gan gynnwys fformat Hawdd ei Ddarllen (ar gael ar y dudalen hon) a chopïau papur, sydd ar gael yn llyfrgelloedd a hybiau Torfaen.
Arolwg Hawdd ei Ddeall: Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn. Gallwch:
• Hepgor unrhyw gwestiynau nad ydych chi eisiau eu hateb.
• Gymryd seibiant pryd bynnag y bydd angen.
• Ddefnyddio'r dudalen gynnwys i fynd yn syth i'r adrannau rydych chi eisiau eu cwblhau.
Cymerwch eich amser. Mae eich barn yn bwysig.
Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio
Mae Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen. Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen a CLlLC yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd (https://www.torfaen.gov.uk/cy/about-the-council/data-protection-and-foi/data-protection/privacy-notice/service-area-privacy-notices/pn160-national-resident-survey-privacy-notice) y Cyngor a pholisi preifatrwydd CLlLC (https://www.wlga.cymru/polisiau/polisi-preifatrwydd-y-wefan).
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau’r arolwg ar-lein, e-bostiwch getinvolved@torfaen.gov.uk.
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch ag arolygon@wlga.gov.uk neu ffoniwch 029 2046 8680.
Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau